Amdanon Ni |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall) Deddf Cwmnïau 2006 Fel y cymhwyswyd ac yr addaswyd gan Reoliadau (Cyfrifon ac Archwilio Ariannol) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008 Cyfrifon ac Archwilio Ariannol - GBLLP2 Atodiad Hydref 2008 - Fersiwn 1 Ydy’r canllaw hwn i chi? Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:
Ni fydd y canllaw hwn yn berthnasol:
Mae’r canllaw hwn ar gyfer cyfnodau cyfeirnod cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2008. Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau cyn 1 Hydref 2008 gweler canllaw GBLLP2 www.companieshouse.gov.uk/about/gbhtml/gbllp2.shtml#three Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn: Mae Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001, sy’n cymhwyso Deddf Cwmnïau 1985 at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (cyrff PAC), yn dal mewn grym, ond cawsant eu diddymu’n rhannol i’r graddau eu bod yn cymhwyso at gyrff PAC ddarpariaethau Deddf 1985 gyda golwg ar gyfrifon ac archwilio ariannol. Mae’r Llywodraeth wedi ymgynghori ynghylch cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006 at gyrff PAC a bydd yn cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006 at gyrff PAC o’r fath lle bo hynny’n briodol. Ond mae’n bosib na fyddir yn cymhwyso holl ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 at gyrff PAC yr un pryd ag y byddan nhw’n dod i rym ar gyfer cwmnïau. Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym ac wedi cael eu cymhwyso at gyrff PAC yn barod. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, ymwelwch â’n gwefan http://www.companieshouse.gov.uk. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html lle gallwch chi weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn Neddf Cwmnïau 2006 (gan gynnwys darpariaethau i’w cymhwyso at gyrff PAC) yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan. Ar ôl mis Hydref 2008, bydd un cam pellach yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 sydd wedi ei drefnu ar gyfer Hydref 2009, pryd yr arfaethir hefyd gymhwyso gweddill darpariaethau perthnasol y Ddeddf honno at gyrff PAC. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithredu hwnnw ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, fel y gallwch gael mynediad at y newyddion diweddaraf. Pa newidiadau sydd wedi dod i rym yn barod ar gyfer cyrff PAC?
Pryd bydd gweddill y newidiadau’n dod i rym ar gyfer cyrff PAC?
Tan 1 Hydref 2009, mae’r nodiadau canllaw hyn yn gymwys i gyrff PAC wedi eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Rhaglennir wedyn i’r system ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon ymdoddi i un system ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Cyflwyniad Mae’r canllaw hwn yn arweiniad ar gyfer pob Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) i’r rheolau sy’n llywio datgeliad cyhoeddus cyfrifon. Darllenwch hwn ar y cyd â’r ddeddfwriaeth berthnasol:
Mae’r canllaw yn ymwneud â thri phrif bwnc: Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg. Mae gan bob PAC ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg, sef diwedd ei blwyddyn ariannol. Dyma hefyd y dyddiad sy’n penderfynu pryd y bydd cyfrifon yn ddyledus i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid dweud wrth Dŷ’r Cwmnïau pan fyddwch chi wedi newid y dyddiad. Gall fod yn gostus os anghofiwch chi ddweud wrthym, gan baratoi cyfrifon ar gyfer y dyddiad anghywir. Os gwnewch hynny, fe wrthodwn gofrestru’r cyfrifon a bydd rhaid ichi baratoi cyfrifon newydd ar gyfer y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg sydd wedi ei gofnodi yn Nhŷ’r Cwmnïau. Paratoi a ffeilio cyfrifon. Mae’n rhaid i bob PAC baratoi set o gyfrifon ar gyfer ei haelodau a set i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.Caiff cyrff PAC bach a chanolig ddewis cydymffurfio â gofynion ar wahân ar gyfer y cyfrifon y mae’n rhaid iddynt eu paratoi i’w haelodau a’r rhai y byddant yn eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ar gyfer cyrff PAC mawr, mae’r ddwy set o gyfrifon yr un fath. Mae terfyn amser ar gyfer cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau gyfrifon derbyniol sy’n cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol. Os byddwch chi'n methu bodloni'r terfyn amser ac yn ffeilio’ch cyfrifon yn hwyr, codwn gosb awtomatig, a hynny'n ddieithriad. Felly mae'n bwysig i chi, i'ch cyfrifwyr ac i'ch archwilwyr ariannol os penodwyd fod yn ymwybodol o'r terfyn amser ar gyfer ffeilio. Nid yw gofynion a therfynau amser Deddf Cwmnïau 2006 yr un fath â rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gyrff rheoleiddio eraill fel yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Cyfrifoldeb yr aelodau yw bod yn ymwybodol o’r gwahanol ofynion. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar y cyfrifon a’r adroddiadau y mae’n rhaid i gyrff PAC bach a chanolig eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Mae cyrff PAC mawr yn ddarostyngedig i ofynion mwy cymhleth o ran ffurf a chynnwys cyfrifon. Darllenwch y ddeddfwriaeth berthnasol am wybodaeth bellach. Nid yw’r canllaw hwn yn trafod cynnwys manwl cyfrifon a gaiff eu llunio o dan Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol. Cynnwys y cyfrifon. Ni all y canllaw hwn ddweud wrthych chi sut i baratoi cyfrifon corff PAC. Dylech chi ystyried ceisio cyngor proffesiynol. Ond mi fydd yn dweud wrthych chi pa ddogfennau sy’n gwneud set o gyfrifon, pa eithriadau y gall fod modd ichi fanteisio arnyn nhw a ph’un a fydd angen ichi benodi archwilwyr ariannol a chyflwyno set o gyfrifon wedi eu harchwilio’n ffurfiol. Pennod 1 1. Beth yw blwyddyn ariannol? 2. Sut pennir y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Er enghraifft, os cafodd y BAC ei chorffori ar 6 Ebrill 2009, yna 30 Ebrill 2010 a bennid yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf iddi a 30 Ebrill bob blwyddyn wedyn. Felly, bydd ei blwyddyn ariannol gyntaf yn rhedeg o 6 Ebrill 2009 hyd 30 Ebrill 2010, ei hail flwyddyn ariannol o 1 Mai 2010 hyd 30 Ebrill 2011. Bydd pob blwyddyn ariannol ddilynol yn rhedeg o 1 Mai hyd 30 Ebrill, oni bai bod y BAC yn newid ei chyfnod cyfrifeg. 3. Oes modd imi newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Oes. Cewch newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyfredol neu’r un blaenorol drwy estyn neu fyrhau’r cyfnod. Er mwyn gwneud hyn, rhaid ichi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg (Ffurflen LLP225). Rhaid ichi gyflwyno ffurflen newid-DCC dderbyniol cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio cyfrifon y cyfnod sydd i’w newid – gweler Pennod 10 cwestiwn 2 i ddysgu sut i gyrchu’r ffurflen hon. Mewn geiriau eraill, os yw Tŷ'r Cwmnïau'n disgwyl cyfrifon ar gyfer cyfnod cyfeirnod cyfrifeg arbennig a bod y rheiny'n mynd yn orddyledus, mae'n rhy hwyr i ddweud eich bod am newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Fel arfer, bydd gan gyrff PAC naw mis i gyflwyno'u cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau wedi diwedd pob cyfnod cyfeirnod cyfrifeg. Mae’r cyfnodau a ganiateir ar gyfer anfon cyfrifon cynta'r BAC ac ar gyfer newid ei dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn wahanol, ac eglurwn hyn ym Mhennod 4. Dylech chi gadw mewn cof y diffiniad o gyfnod o fisoedd mewn cysylltiad â ffeilio cyfrifon: 4. Oes yna gyfyngu o ran newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Ond mae cyfyngiadau o ran estyn cyfnodau cyfeirnod cyfrifeg:
5. Oes yna gyfyngiadau ychwanegol wrth newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cynta’r BAC? Nac oes. Mae’r cyfyngiadau ar gyfer newid unrhyw gyfnod yr un fath â’r rhai a ddisgrifiwyd yng nghwestiwn 4 Pennod 1 uchod. Mae’n werth cadw mewn cof wrth geisio estyn eich cyfnod cyfrifeg cyntaf i’r uchafswm o 18 mis, fod rhaid ichi gyfri’r dyddiad corffori fel diwrnod cynta’r cyfnod, ni waeth pa bryd y dechreuwyd masnachu. Bydd llawer o gyrff PAC yn gwneud y camgymeriad o ychwanegu chwe mis at ddiwedd y cyfnod, a fydd yn estyn y cyfnod ymhellach na 18 mis. Pennod 2 1. Beth yw cofnodion cyfrifeg? Mae cofnodion cyfrifeg yn gofnodion sy’n ddigonol i ddangos ac egluro trafodion y BAC ac i ddatgelu (yn rhesymol o fanwl-gywir) ei sefyllfa ariannol ar unrhyw adeg arbennig. Rhaid i’r aelodau allu paratoi cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau ar sail y cofnodion cyfrifeg. 2. Oes rhaid i bob PAC gadw cofnodion cyfrifeg? Oes. Mae’n rhaid i bob PAC, p’un a fo’n masnachu neu beidio, gadw cofnodion cyfrifeg. 3. Beth y mae’n rhaid ei gynnwys mewn cofnodion cyfrifeg? Rhaid i gofnodion cyfrifeg gynnwys:
At hyn, lle mae busnes y BAC yn golygu delio mewn nwyddau, mae’n rhaid i’r cofnodion gynnwys:
Rhaid i riant BAC gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw is-gwmni’n cadw cofnodion cyfrifeg digonol fel bod modd i aelodau’r rhiant baratoi cyfrifon sy’n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau, gan gynnwys lle caiff y cyfrifon eu paratoi drwy ddilyn Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol. 3. Ble mae’n rhaid i’r BAC gadw’r cofnodion cyfrifeg? Rhaid i gofnodion cyfrifeg y PAC gael eu cadw yn ei swyddfa gofrestredig neu mewn man a wêl yr aelodau yn addas. Rhaid i’r cofnodion fod yn agored i gael eu harchwilio gan aelodau’r BAC ar bob adeg. Os yw’r BAC yn cadw’r cofnodion rywle y tu allan i’r DU, rhaid iddi anfon cyfrifon a ffurflenni blynyddol yn cyfleu manylion y busnes a drafodwyd, o leiaf bob chwe mis a’u cadw yn y DU. Rhaid i’r cyfrifon a’r ffurflenni hynny ddatgelu’r sefyllfa ariannol a galluogi’r aelodau i baratoi cyfrifon sy’n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau, gan gynnwys lle caiff y cyfrifon eu paratoi drwy ddilyn Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol. 4. Pa mor hir y mae’n rhaid i’r BAC gadw cofnodion? Rhaid i BAC gadw cofnodion cyfrifeg am dair blynedd ar ôl dyddiad eu llunio. Pennod 3 1. Pwy sy’n gyfrifol am baratoi cyfrifon? Rhaid i aelodau pob PAC baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Cyfrifon unigol y gelwir y rhain. Rhaid i riant BAC hefyd baratoi cyfrifon grŵp (ond ar gyfer rhiant-cyrff PAC sydd wedi eu diffinio’n fach – gweler Pennod 5 – mae hyn yn ddewisol). 2. Beth yw cynnwys set o gyfrifon?
Nodyn: ni all y canllaw hwn fanylu ar yr holl wybodaeth y mae’n rhaid i’r dogfennau uchod ei chynnwys - ar gyfer hyn, gweler y rheoliadau perthnasol. 3. Pa gyfnod y mae’n rhaid i’r cyfrifon ei fodloni? Rhaid i gyfrifon cynta PAC fodloni cyfnod yn dechrau ar ddyddiad y corffori, nid y diwrnod masnachu cyntaf. Deuant i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu hyd at saith diwrnod y naill ochr neu’r llall i’r dyddiad hwnnw. Ymdriniwyd ym Mhennod 1 â dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg a sut i’w newid. Bydd cyfnodau dilynol yn dechrau’r diwrnod ar ôl i’r cyfrifon blaenorol ddod i ben ac yn gorffen ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu hyd at saith diwrnod ynghynt neu wedyn. Er enghraifft, os caiff PAC ei chorffori ar 3 Hydref 2008, rhaid i’r cyfrifon fodloni cyfnod cyfan 3 Hydref 2008 – 31 Hydref 2009. Bydd cyfnodau dilynol yn dechrau ar 1 Tachwedd bob blwyddyn ac yn dod i ben ar 31 Hydref y flwyddyn nesaf. Cewch newid hyn drwy fyrhau neu estyn cyfnod arbennig fel ei fod yn dod i ben ar ddyddiad gwahanol – gweler Pennod 1. 4. Pwy sydd i dderbyn copi o’r cyfrifon? Rhaid i bob PAC anfon copi o’i chyfrifon blynyddol ac adroddiad yr archwilydd (lle bo hwnnw’n gymwys) ar gyfer pob blwyddyn ariannol at:-
Rhaid i’r BAC anfon cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau hefyd. Mae Pennod 4 yn manylu ar hyn. 5. Oes modd i BAC gytuno i ddefnyddio gwefan fel y gall yr aelodau weld y cyfrifon? Oes. Gall yr aelodau gytuno’n fewnol fod modd i BAC anfon neu gyflenwi dogfennau, gan gynnwys cyfrifon, drwy eu cyhoeddi ar y wefan. 6. Pwy all gymeradwyo a llofnodi cyfrifon? Rhaid i aelodau’r BAC gymeradwyo’r cyfrifon a threfnu iddyn nhw gael eu llofnodi ar eu rhan gan aelod dynodedig. Rhaid i’r llofnod fod ar y fantolen a rhaid i unrhyw ddatganiad ynglŷn â pharatoi’r cyfrifon o dan y drefn ar gyfer gyrff PAC bach ymddangos uwchlaw’r llofnod. Os oes rhaid i’r BAC atodi adroddiad archwilydd ariannol wrth y cyfrifon, rhaid i’r archwilydd ei lofnodi a’i ddyddio a rhaid i’r adroddiad nodi enw’r archwilydd. Lle bo’r archwilydd ariannol yn gwmni, rhaid i adroddiad yr archwilydd nodi enw’r archwilydd ac enw’r sawl a’i llofnododd ar ran y cwmni fel uwch-archwilydd statudol – gweler cwestiwn 7 isod.
Sylwer: ni all Tŷ’r Cwmnïau dderbyn enw teipiedig fel llofnod ar gyfrifon. 7. Oes yna eithrio rhag nodi enw’r archwilydd ariannol ar adroddiad yr archwilydd neu’r adroddiad archwilio arbennig? Oes. Am ragor o fanylion, gweler 1.5 ym Mhennod 8 – Archilwyr Ariannol.. Pennod 4 1. Ydy’r cyfrifon a gaiff eu ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau yn wahanol i’r rhai a baratoir i’r aelodau? Gall yr aelodau dynodedig (sy’n gyfrifol am ffeilio cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau) ffeilio’n syml gopi o’r cyfrifon a gafodd eu paratoi eisoes i’r aelodau. Ond gall cyrff PAC bach a chanolig ffeilio fersiwn cryno o’r cyfrifon hynny, yn cynnwys llai o fanylion drwy gyfuno rhai eitemau. Am y rhwymedigaethau ffeilio llawn, cyfeiriwch at y rheoliadau perthnasol a gafodd eu rhestru yn y Cyflwyniad. 2. Oes rhaid i bob PAC ffeilio cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau? Oes. 3. Oes angen o hyd imi ffeilio fy nghyfrifon gydag HMRC a chyrff rheoleiddio eraill? Oes. Mae cyfrifon a gaiff eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau yn unol â Deddf Cwmnïau 2006 fel y caiff honno ei chymhwyso at gyrff PAC. Rhaid ichi ffeilio gyda chyrff rheoleiddio eraill yr un fath yn unol â’u gofynion nhw a’u terfynau amser ar gyfer ffeilio. 4. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi cyngor technegol ynghylch cyfrifon? 5. Pa mor hir sydd gen i i ffeilio cyfrifon cyntaf fy nghwmni? Os ydych chi’n ffeilio cyfrifon cyntaf eich cwmni a’u bod yn cyfeirio at gyfnod o fwy na 12 mis, rhaid eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau:
Er enghraifft, bydd PAC a gorfforwyd ar 1 Tachwedd 2008 ac y pennwyd 30 Tachwedd fel dyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi, yn cael tan ganol nos ar 1 Awst 2010 (21 mis yn union ar ôl y dyddiad corffori) i gyflwyno’i chyfrifon, nid 31 Awst. 6. Pa mor hir sydd gen i fel arfer i ffeilio fy nghyfrifon?
Dylech chi gadw mewn cof sut y bwrir cyfrif o’r cyfnod o fisoedd a gaiff ei ganiatáu i ffeilio cyfrifon: 7. Os bydda i’n byrhau’r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, oes rhaid imi ffeilio erbyn y terfyn amser gwreiddiol o hyd? Nac oes. Wrth i BAC fyrhau ei chyfnod cyfrifeg, y terfyn amser newydd ar gyfer ffeilio fydd, yn awtomatig, naill ai:
8. Ga i wneud cais am fwy o amser i ffeilio? Cewch. Os oes rheswm arbennig dros wneud, gellir gwneud cais am estyn yr amser ar gyfer cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau: er enghraifft, os buodd digwyddiad na ragwelwyd ac a oedd y tu hwnt i reolaeth y BAC a’i harchwilwyr ariannol. Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig a chael ei gyflwyno cyn y terfyn amser arferol ar gyfer ffeilio. Rhaid iddo gynnwys esboniad llawn o resymau’r estyniad a hyd yr estyniad sydd eisiau.
9. Beth os bydd y BAC yn cyflwyno’i chyfrifon yn hwyr? 10. Beth os yw’r terfyn amser ar gyfer ffeilio yn syrthio ar ddydd Sul neu Ŵyl Banc? Os yw’r terfyn amser ar gyfer ffeilio yn dod i ben ar ddydd Sul neu Ŵyl Banc, mae’r gyfraith o hyd yn mynnu i’r aelodau dynodedig ffeilio cyfrifon erbyn y dyddiad hwnnw. Felly, dylech chi ofalu eich bod yn anfon cyfrifon derbyniol mewn pryd fel eu bod yn cyrraedd cyn terfyn amser o’r fath. Y dyddiad y ceir yn Nhŷ’r Cwmnïau gyfrifon derbyniol yn bodloni’r gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n bwysig, nid dyddiad anfon y cyfrifon. 11. Beth os na wna i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau o gwbl? Mae methiant i gyflwyno dogfennau’n brydlon yn dramgwydd troseddol. Bydd aelodau dynodedig y BAC yn agored i gael eu herlyn. O’i gollfarnu/chollfarnu, gallai aelod dynodedig gael cofnod troseddu a dirwy o hyd at £5,000 am bob tramgwydd. Bydd hyn ar wahân i’r gosb sifil a gaiff ei gosod ar y BAC am gyflwyno cyfrifon yn hwyr. Fel arall, os cred y Cofrestrydd nad yw’r BAC yn gweithredu nac yn dilyn busnes mwyach, gallai ddileu ei henw o’r gofrestr a’i datod. Os dyma sy’n digwydd, mae holl asedion y BAC, gan gynnwys ei chyfrif banc a’i heiddo, yn dod yn eiddo i’r Goron. 12. Alla i gyflwyno cyfrifon mewn unrhyw iaith? Os paratowch gyfrifon mewn iaith ar wahân i’r Saesneg, rhaid ichi hefyd anfon cyfieithiad i’r Saesneg gyda nhw. Ond os yw swyddfa gofrestredig y PAC yng Nghymru, cewch anfon cyfrifon Cymraeg yn unig os dewiswch chi. Pennod 5 Beth yw PAC fach? Mae tri maint PAC i’w hystyried wrth baratoi’ch cyfrifon: bach, canolig neu fawr. Mae yna drothwyon yng nghyswllt trosiant busnes, cyfanswm y fantolen (sy’n golygu cyfanswm yr asedion) a nifer cyfartalog y gweithwyr i benderfynu a yw’ch PAC yn fach neu’n ganolig. PAC mawr yw unrhyw rai nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer PAC fach neu ganolig a bydd yn rhaid iddynt baratoi a ffeilio cyfrifon llawn. Gall PAC fach baratoi a ffeilio cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig Deddf Cwmnïau 2006 fel y cafodd honno ei chymhwyso at gyrff PAC, a’r rheoliadau perthnasol. Mae hyn yn golygu bod modd iddi ddewis datgelu llai o wybodaeth na PAC ganolig neu fawr. Ni all cyrff PAC y derbynnir eu gwarannoedd ar gyfer masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio o fewn yr AEE na rhai cyrff PAC gwasanaeth ariannol fod yn gymwys fel rhai bach. Yn yr un modd, ni all cyrff PAC sy’n rhan o grŵp sydd ag aelodau sy’n gwmnïau cyhoeddus neu’n cyrff PAC gwasanaeth ariannol fod yn gymwys fel rhai bach, ac eithrio o dan amgylchiadau arbennig – gweler cwestiwn 1.2 isod. Os teimlwch fod eich PAC chi yn gymwys fel un fach, hwyrach yr hoffech ymgynghori â chyfrifydd proffesiynol cyn paratoi cyfrifon yn unol â’r darpariaethau sy’n gymwys i gyrff PAC’n dibynnu ar y drefn cyrff PAC bach. 1 Bod yn gymwys fel un fach 1.1. Beth yw’r amodau i fod yn gymwys fel PAC fach? Rhaid i BAC fach fodloni o leiaf dau o'r amodau canlynol:
Os nad dyma gyfnod cyfrifeg cynta’r BAC, rhaid iddi fod wedi bod yn gymwys fel un fach yn y cyfnod blaenorol – gweler 1.3. 1.2. Oes yna gyrff PAC na allan nhw baratoi a chyflwyno cyfrifon bach? Oes. Os yw PAC, neu os oedd unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn un o’r canlynol, ni chaiff baratoi a chyflwyno cyfrifon PAC fach:
Mae grŵp yn anghymwys os yw unrhyw un o’i aelodau:
Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyrff PAC gwasanaeth ariannol sydd wedi eu heithrio rhag y drefn cyrff PAC bach, cysylltwch â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ar eu gwefan www.fsa.gov.uk/pages/index.shtml 1.3. A all PAC fod yn gymwys fel un fach bob blwyddyn? At ei gilydd, bydd PAC yn gymwys fel un ‘fach’ yn ei chyfnod cyfrifeg cyntaf os yw’n bodloni’r amodau yn y flwyddyn honno. Mewn unrhyw gyfnodau dilynol, mae’n rhaid i’r BAC fodloni’r amodau yn y cyfnod hwnnw a’r cyfnod blaenorol. Ond os nad yw PAC oedd yn gymwys mewn un cyfnod yn cwrdd â’r meini prawf mwyach ar gyfer bod yn fach yn y cyfnod nesaf, caiff y BAC barhau i hawlio’r eithriadau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod nesaf. Os bydd y BAC honno wedyn yn mynd yn ôl i fod yn fach drwy fodloni’r meini prawf, bydd yr eithrio’n parhau’n ddi-dor. 1.4. Beth yw’r amodau ar gyfer bod yn gymwys fel grŵp bach? I fod yn gymwys fel un bach, rhaid i grŵp y mae rhiant PAC yn ben arno fodloni o leiaf dau o'r amodau canlynol:
Os nad dyma gyfnod cyfrifeg cynta’r riant PAC, rhaid iddi fod wedi bod yn gymwys fel un fach yn y cyfnod blaenorol – gweler 1.3 . 2. Cyfrifon PAC Fach 2.1 Beth yw cynnwys cyfrifon PAC fach? At ei gilydd, mae'n rhaid i gyfrifon PAC fach a gaiff eu paratoi i’r aelodau gynnwys:
Rhaid i’r fantolen gynnwys datganiad mewn lle amlwg i’r perwyl bod y cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â’r darpariaethau arbennig sy’n gymwys i gyrff PAC yn dibynnu ar y drefn y gyrff PAC bach. 2.2 Pa eithriadau sydd ar gael i gyrff PAC bach? 2.3 Beth mae’n rhaid i BAC fach ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau? Caiff aelodau dynodedig PAC ffeilio copi o’r cyfrifon a baratoes i’w haelodau o dan y drefn PAC fach neu fe gânt gyflwyno fersiwn cryno o’r rheiny. Mae cynnwys cyfrifon cryno yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau i’w weld yn Neddf Cwmnïau 2006 fel y cafodd honno ei chymhwyso at gyrff PAC, ac yn rheoliad 5 ac Atodlen 3 i Reoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau Bach Atebolrwydd Cyfyngedig 2008. Os crynhowch y cyfrifon, bydd arnoch chi hefyd angen adroddiad archwilio ariannol arbennig y mae’n rhaid iddo ddweud bod gan y BAC, ym marn yr archwilydd:
Nid yw’r hawl i baratoi cyfrifon cryno ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau yn effeithio ar rwymedigaethau’r BAC i baratoi cyfrifon llawn i’w haelodau – gweler Pennod 3. Does dim rhaid i gyrff PAC bach gyflwyno copi o’r cyfrif elw a cholled i Dŷ’r Cwmnïau. Caiff cyrff PAC bach sy’n paratoi cyfrifon sydd heb ddilyn Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (IAS) gyflwyno mantolen gryno. Rhaid i gyrff PAC bach sy’n paratoi cyfrifon yn unol â Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol gyflwyno mantolen lawn i Dŷ’r Cwmnïau. Os paratowch gyfrifon yn unol â’r darpariaethau sy’n gymwys i gyrff PAC bach, p’un a fydd y rheiny’n gryno neu beidio, mae’n rhaid ichi gynnwys datganiad mewn lle amlwg ar y fantolen ac uwchlaw llofnod yr aelod dynodedig i’r perwyl bod y cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â’r darpariaethau arbennig sy’n gymwys i gyrff PAC yn dibynnu ar y drefn cyrff PAC bach. 2.4 Oes rheolau arbennig i grwpiau bach? Os paratowch gyfrifon grŵp, mae’n rhaid iddyn nhw gynnwys datganiad uwchlaw’r llofnod ar y fantolen yn cadarnhau eu bod wedi eu paratoi yn unol â’r darpariaethau sy’n gymwys i gyrff PAC yn dibynnu ar y drefn cyrff PAC bach. 3 - Eithrio cyrff PAC bach rhag archwilio ariannol 3.2. Pa gyrff PAC bach sy’n gymwys i’w heithrio rhag archwilio ariannol?
3.3 Ydy pob math o gyrff PAC fach yn gymwys i’w heithrio?
3.4 Beth sydd angen i BAC a gafodd ei heithrio rhag archwilio ariannol ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau? Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â’r darpariaethau sy’n gymwys i gyrff PAC yn perthyn i’r drefn cyrff PAC bach.” 3.5 Pa mor hir sydd gen i i gyflwyno cyfrifon wedi eu heithrio rhag archwilio ariannol i Dŷ'r Cwmnïau? 3.6 Oes rhaid i BAC a gafodd ei heithrio rhag archwilio ariannol anfon cyfrifon at ei haelodau a’i ddyledebwyr o hyd? 3.7 Os nad yw fy Mhartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig yn masnachu, oes rhaid iddi gyflwyno cyfrifon o hyd? Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfrifon cyrff PAC segur, gweler Pennod 7.. Pennod 6 Caiff PAC ganolig baratoi cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig sy’n gymwys i gyrff PAC canolig eu maint. Mae hyn yn golygu bod modd iddyn nhw ddewis cyflwyno llai o wybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau. Yn yr un modd, ni all cyrff PAC sy'n rhan o grŵp y mae iddo aelodau sy'n gwmnïau cyhoeddus neu’n cyrfrf PAC gwasanaeth ariannol o fath arbennig, fod yn gymwys fel rhai canolig at ddibenion cyfrifeg – gweler Pennod 6, cwestiwn 1 isod. Os credwch y gallai’r BAC fod yn gymwys fel un ganolig, hwyrach yr hoffech chi ystyried ymgynghori â chyfrifydd proffesiynol cyn paratoi cyfrifon. 1 Bod yn gymwys fel canolig ei maint 1.1 Beth yw’r amodau i fod yn gymwys fel PAC ganolig? I fod yn BAC ganolig, rhaid bodloni o leiaf dau o'r amodau canlynol:
Os nad dyma gyfnod cyfrifeg cynta’r BAC, rhaid iddi fod wedi bod yn gymwys fel un canolig ei maint yn y cyfnod blaenorol – Pennod 6- gweler 1.3. 1.2 Oes yna gyrff PAC a gaiff eu hepgor o’u trin fel rhai canolig? Oes. Os yw PAC, neu os oedd unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn un o’r canlynol, caiff ei hepgor o’i thrin fel un ganolig ei maint:
Mae grŵp yn anghymwys os yw unrhyw un o’i aelodau:
1.3. A all PAC fod yn gymwys fel un ganolig bob blwyddyn? At ei gilydd, bydd PAC yn gymwys fel un ‘ganolig ei maint’ yn ei chyfnod cyfrifeg cyntaf os yw’n bodloni’r amodau yn y flwyddyn honno. Mewn unrhyw gyfnodau dilynol, mae’n rhaid i BAC fodloni’r amodau yn y cyfnod hwnnw a’r cyfnod blaenorol. Ond os nad yw PAC oedd yn gymwys fel un ganolig mewn un cyfnod yn cwrdd â’r meini prawf mwyach ar gyfer bod yn ganolig yn y cyfnod nesaf, caiff barhau i hawlio’r eithriadau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod nesaf. Os bydd y BAC honno wedyn yn mynd yn ôl i fod yn ganolig drwy fodloni’r meini prawf, bydd yr eithrio’n parhau’n ddi-dor. 2 Cyfrifon PAC ganolig 2.1 Beth yw cynnwys cyfrifon PAC ganolig? Mae'n rhaid i gyfrifon ganolig gynnwys:
2.2 Pa eithriadau sydd ar gael i gyrff PAC canolig? Caiff cyrff PAC canolig sy’n paratoi cyfrifon o dan y Ddeddf Cwmnïau fel y cafodd honno ei chymhwyso at gyrff PAC (ond nid cyfrifon IAS) hepgor datgeliadau’n ymwneud â chydymffurfio â safonau cyfrifeg a thrafodion parti cysylltiedig o’r cyfrifon y byddan nhw’n eu dosbarthu ymhlith eu haelodau. Gall cyrff PAC canolig sy’n paratoi cyfrifon o dan y Ddeddf Cwmnïau fel y cafodd honno ei chymhwyso at gyrff PAC (ond nid cyfrifon IAS) ddewis ffeilio fersiwn ychydig byrrach o’r cyfrif elw a cholled. Gweler rheoliad 4 o Reoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau Mawr a Chanolig Atebolrwydd Cyfyngedig 2008. 2.3 Beth mae’n rhaid i BAC ganolig ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau? Rhaid i gyfrifon cryno PAC ganolig ei maint gynnwys:
Dylai adroddiad archwilio ariannol arbennig ddweud bod gan y PAC hawl, ym marn yr archwilydd, i gyflwyno cyfrifon cryno yn unol ag adran 445(3) o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y cafodd honno ei chymhwyso gan Reoliadau (Cyfrifon ac Archwilio Ariannol) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008), a bod y rheiny wedi eu paratoi’n briodol yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau Mawr a Chanolig Atebolrwydd Cyfyngedig 2008. Rhaid i’r fantolen gynnwys datganiad uwchlaw llofnod yr aelod dynodedig i’r perwyl bod y cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â darpariaethau arbennig adran 445(3) o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y cafodd honno ei chymhwyso gan Reoliadau (Cyfrifon ac Archwilio Ariannol) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008), gyda golwg ar gyrff PAC canolig eu maint. 2.4 Oes yna reolau arbennig i grwpiau bach? Nac oes. Mae’n rhaid i riant PAC ganolig baratoi cyfrifon grŵp a’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Beth yw PAC segur? Wrth ystyried a yw PAC yn segur, gellir anwybyddu’r trafodion ariannol a ganlyn:
1 – Amodau ar gyfer eithrio cyrff PAC segur rhag archwilio ariannol 1.1 Beth yw’r amodau y mae’n rhaid i BAC segur eu bodloni i gael ei heithrio rhag archwilio ariannol? Bydd PAC segur wedi ei heithrio rhag archwilio ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno:
1.2 Pa eithriadau sydd ar gael? Gall cyrff PAC segur hawlio cael eu heithrio rhag archwilio ariannol. Dim ond mantolen gryno a nodiadau y mae angen iddyn nhw eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Does dim rhaid cynnwys cyfrif elw a cholled gyda chyfrifon PAC segur wrth eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ni all PAC fanteisio ar y rhyddhad rhag archwilio ariannol i BAC segur os oedd, unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw:
Does dim hawl gan BAC i’r eithrio rhag archwilio ariannol ar gyfer BAC segur oni bai bod ei mantolen yn cynnwys y datganiadau y cyfeirir atyn nhw ym Mhennod 7, cwestiwn 2.2 isod. 2 – Cyfrifon PAC segur 2.1 Pa wybodaeth y mae'n rhaid i gyfrifon PAC segur ei chynnwys? Mae cyfrifon PAC segur sydd heb eu harchwilio'n ffurfiol yn llawer symlach na chyfrifon PAC sy'n masnachu, ond mae'n rhaid iddyn nhw gynnwys:
Nid yw’r hawl i baratoi mantolen segur i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau yn effeithio ar rwymedigaethau’r BAC i baratoi cyfrifon llawn i’w haelodau – gweler Pennod 3. 2.2. Pa ddatganiadau y mae angen imi eu gwneud ar y fantolen? Dylai’r datganiadau canlynol ymddangos uwchben llofnod yr aelod dynodedig: “Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ……………………... (dd/mm/bbbb), yr oedd gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig hawl i gael ei heithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y cafodd honno ei chymhwyso gan Reoliadau (Cyfrifon ac Archwilio Ariannol) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008), gyda golwg ar bartneriaethau segur atebolrwydd cyfyngedig. Mae’r aelodau’n cydnabod eu cyfrifoldebau am gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ynglŷn â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon.” Rhaid i BAC sy’n gymwys fel un fach gynnwys hefyd y datganiad canlynol ar y fantolen: “Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â’r darpariaethau sy’n gymwys i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn perthyn i’r drefn partneriaethau bach.” 2.3. Pa mor hir sydd gen i i gyflwyno cyfrifon segur i Dŷ’r Cwmnïau? 2.4 Beth sy’n digwydd os bydd fy MHAC yn ailddechrau masnachu?
Pe digwyddai’r naill neu’r llall o’r rhain, gallai fod angen cyflwyno cyfrifon llawn ar gyfer y flwyddyn ariannol pryd y peidiodd y BAC â chael ei heithrio ac efallai y byddai eisiau i’r aelodau dynodedig benodi archwilwyr ariannol i’r BAC. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddai’r BAC yn gymwys i gael ei heithrio fel PAC o faint canolig neu fach. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion archwilio i gyrff BAC ac am eithrio cyrff PAC bach rhag archwilio ariannol i’w chael ym Mhenodau 5 a 7 o’r canllaw hwn. Mantolenni segur enghreifftiol i’w cyflwyno i’r Dŷ’r Cwmnïau: Bwriedir i’r patrymau hyn adlewyrchu’r holl asedion a rhwymedigaethau posib a all fod gan y BAC, ond dim ond os oes swm ar wahân i ddim byd i’w gofnodi y mae angen ichi gynnwys pennawd penodol. Does dim angen i’r llythrennau a’r rhifau a welir yng nghyswllt y penawdau a’r is-benawdau gael eu dangos ym mantolen y BAC. Os bu'r BAC yn masnachu mewn blwyddyn ariannol flaenorol, cadwch mewn cof y bydd mantolen eich blwyddyn flaenorol yn dangos sefyllfa ariannol y BAC fel yr oedd ar y pryd. Os na fu trafodion cyfrifeg ers hynny, hwyrach na fyddwch chi ond yn cario ymlaen ffigurau'r llynedd. Mae ddau ddiwyg – wedi eu marcio 1 a 2 – y gellir dilyn y naill neu’r llall ohonyn nhw. Mae cynnwys y ddau ddiwyg yr un fath: dim ond cyflwyno penawdau’r fantolen mewn trefn wahanol y maen nhw.
Rhaid i bob cofnod fod yn swm mewn ffigurau (nid geiriau) neu’n ‘0.00’. Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfen sy’n cofnodi ‘Dim’ lle dylai ffigur ymddangos. MANTOLEN CWMNI SEGUR DIWYG 1
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ……….... (dd/mm/bbbb), yr oedd gan y BAC hawl i gael ei heithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y cafodd honno ei chymhwyso gan Reoliadau (Cyfrifon ac Archwilio Ariannol) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008) gyda golwg ar gyrff PAC segur. MANTOLEN CWMNI SEGUR DIWYG 2
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ……….... (dd/mm/bbbb), yr oedd gan y BAC hawl i gael ei heithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y cafodd honno ei chymhwyso gan Reoliadau (Cyfrifon ac Archwilio Ariannol) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008) gyda golwg ar gyrff PAC segur.
Yn ychwanegol, mae'n bosib y bydd rhaid rhoi'r wybodaeth ganlynol am is-ymgymeriadau:
Pennod 8 1 Penodi archwilwyr ariannol 1.1. Beth yw archwilydd ariannol? Mae archwilydd ariannol yn berson sy'n llunio ac yn cyflwyno i aelodau'r BAC adroddiad annibynnol yn dweud a gafodd cyfrifon blynyddol y BAC eu paratoi'n briodol yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 fel y cafodd honno ei chymhwyso at gyrff PAC, ynghyd â’r fframwaith adrodd ariannol sy’n gymwys. Rhaid i'r adroddiad ddweud a yw'r cyfrifon yn rhoi golwg wir a theg ar faterion y BAC ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac ar yr elw a’r golled am y flwyddyn. 1.2. Oes rhaid i gyfrifon pob PAC gael eu harchwilio'n ffurfiol? Nac oes. Os ydyn nhw'n gymwys i gael eu heithrio ac am fanteisio ar eithriad felly, does dim rhaid i’r mwyafrif o gyrff PAC bach na chyrff PAC segur drefnu i'w cyfrifon gael eu harchwilio'n ffurfiol. Mae rhagor o wybodaeth am eithrio cyrff PAC bach a rhai segur rhag archwilio ariannol i'w chael ym Mhenodau 5 a 7 . Yr aelodau dynodedig fydd yn penodi archwilydd ariannol cynta'r BAC. Wedyn, gall yr aelodau benodi neu ailbenodi archwilydd o fewn 28 diwrnod i’r aelodau dynodedig ddosbarthu’r cyfrifon ymhlith yr aelodau neu ddiwedd y cyfnod a bennwyd ar gyfer eu dosbarthu. Ond os na wnânt hynny, bydd yr archwilydd yn dal mewn swydd nes i’r aelodau benderfynu ailbenodi'r archwilydd, neu benodi un yn ei (l)le, oni bai bod cytundeb y BAC yn mynnu ailbenodiad gwirioneddol. 1.4. Beth yw gwaith archwilydd ariannol? Bydd yr archwilydd ariannol yn bwrw golwg dros adroddiadau, cyfrifon a chofnodion cyfrifeg y BAC ac yn paratoi adroddiad i’r aelodau. Rhaid i adroddiad yr archwilydd ariannol gynnwys:
Rhaid i’r archwilydd lofnodi a dyddio’r adroddiad a rydd i aelodau’r BAC wrth gwblhau’r archwilio ariannol. Lle mae’r archwilydd ariannol yn gwmni, mae’n rhaid i’r uwch-archwilydd statudol lofnodi’r adroddiad archwilio yn ei (h)enw ei hun ar ran y cwmni. Rhaid iddo/iddi hefyd ddyddio’r llofnod. Rhaid nodi enw’r uwch-archwilydd ariannol yng nghopïau cyhoeddedig yr adroddiad archwilio. Rhaid i gopïau o adroddiadau archwilio a gaiff eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau nodi enw’r cwmni archwilio a’r uwch-archwilydd statudol, a bod wedi eu llofnodi gan yr archwilydd neu (lle mae’r archwilydd yn gwmni) gan rywun a awdurdodwyd i lofnodi ar ran y cwmni. 1.5. Oes yna eithrio rhag nodi enw’r archwilydd ariannol ar yr adroddiad archwilio? Oes. Os teimla’r BAC fod peryg y gallai’r archwilydd neu unrhyw un arall ddioddef trais neu fygwth difrifol o ganlyniad i nodi enw’r archwilydd (neu enw’r “uwch-archwilydd statudol” a lofnododd yr adroddiad ar ran y cwmni archwilio) ar gopïau ffeiliedig neu gyhoeddedig o’r adroddiad, caiff benderfynu hepgor yr enw o’r copïau hynny. Peidiwch ag anfon copi o’r penderfyniad hwn i Dŷ’r Cwmnïau ond dylech chi anfon hysbysiad amdano i’r cyfeiriad canlynol: Yr Ysgrifennydd Gwladol Rhaid i’r hysbysiad nodi:
Byddai angen i’r adroddiad archwilio a gaiff ei atodi wrth y cyfrifon gynnwys y datganiad canlynol: “Yn unol ag adran 506 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y cafodd honno ei chymhwyso gan Reoliadau (Cyfrifon ac Archwilio Ariannol) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008), mae’r BAC wedi penderfynu na ddylid nodi enw’r archwilydd ariannol.” 1.6. A gaiff fy nghyfrifydd fod yn archwilydd ariannol imi? Rhaid i archwilydd fod yn annibynnol ar y BAC. Felly, ni all rhywun gael ei b/phenodi’n archwilydd ariannol os yw:
Os nad yw’ch cyfrifydd yn perthyn i’r un o’r categorïau uchod ac os yw’n archwilydd cofrestredig wedi ei (g)oruchwylio gan gorff goruchwylio cydnabyddedig, caiff weithredu’n archwilydd ariannol i’r BAC. Cofiwch: Nid yw pob aelod o gorff goruchwylio cydnabyddedig yn gymwys i weithredu’n archwilydd ond bydd y corff priodol yn gallu dweud wrthych chi a yw unigolyn neu gwmni arbennig yn archwilydd ariannol cofrestredig. 1.7. Beth a phwy yw cyrff goruchwylio cydnabyddedig? Dyma gyrff a gydnabyddir gan y Bwrdd Goruchwylio Proffesiynol ar gyfer Cyfrifeg fel rhai sydd â rheolau y bwriedir iddyn nhw sicrhau bod archwilwyr ariannol o'r cymhwyster proffesiynol uchaf. Mae gan bob corff cydnabyddedig reoliadau caeth a chôd disgyblu'n rheoli ymddygiad eu harchwilwyr ariannol cofrestredig. Y pum corff cydnabyddedig yw: Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig Cymdeithas y Cyfrifwyr Cyhoeddus Awdurdodedig COFIWCH: Gallwch chi ofyn i'ch archwilydd ariannol gadarnhau ei f/bod wedi cofrestru gydag un o'r cyrff hyn, neu fe allwch gysylltu â'r corff priodol. 1.8. Ai â chyfrifon blynyddol a chofnodion cyfrifeg yn unig y bydd archwilydd ariannol yn ymwneud? Ie. Fodd bynnag, does dim sy'n eich rhwystro rhag cyflogi archwilydd ariannol at ddibenion eraill, fel trefnu'r llyfrau neu'r ffurflen dreth, ar yr amod nad yw'n cyfrannu at reolaeth y BAC. Dylech chi gytuno ar lythyr cyflogi sy'n nodi dyletswyddau'r archwilydd. Er enghraifft, hwyrach y bydd y BAC am i'r archwilydd baratoi adroddiad rheoli wedi'r archwiliad ariannol, gan restru'r holl fân wallau a welodd hyd yn oed os cawsant eu cywiro. Adran 2 2.1. A ellir diswyddo archwilydd ariannol? Gellir. Caiff aelodau'r BAC symud archwilydd ariannol o'i swydd unrhyw adeg yn ystod tymor ei (g)wasanaeth, neu benderfynu peidio ag ailbenodi'r archwilydd am gyfnod pellach. Rhaid iddyn nhw roi i'r archwilydd rybudd saith diwrnod o'u bwriad. Wedyn, bydd gan yr archwilydd hawl i ymateb yn ysgrifenedig a mynnu bod yr ymateb hwnnw'n cael ei anfon at aelodau'r BAC. Er y gall PAC symud archwilydd ariannol o'i swydd unrhyw adeg, gall fod gan yr archwilydd hawl i ddigollediad neu iawndal yn sgil terfynu ei b/phenodiad. Lle bo archwilydd ariannol yn peidio â dal swydd am unrhyw reswm, rhaid iddo/i adneuo datganiad yn swyddfa gofrestredig y BAC. Dylai'r datganiad nodi unrhyw amgylchiadau ynghylch peidio â dal swydd y cred yr archwilydd y dylid eu dwyn i sylw aelodau a chredydwyr y BAC.
Pennod 9 Yn gryno, dylai dogfennau fod ar bapur gwyn plaen o faint A4 yn pwyso rhwng 80gms a 100gms gyda gorffeniad di-sglein. Dylai'r testun fod yn ddu, yn glir, yn ddarllenadwy ac o ddwysedd cyson. 4. Wrth baratoi dogfen:
Cyfrifon sglein Os ydych chi'n cynhyrchu cyfrifon sglein wedi eu hargraffu mewn lliwiau, byddwch cystal â chadw'r rheiny'n ôl i'ch aelodau ac eraill a fydd yn eu gwerthfawrogi. Mae arnon ninnau angen testun du ar bapur gwyn gyda gorffeniad di-sglein o hyd. Mae fersiwn teipiedig heb ei rwymo neu broflen yr argraffwyr yn ddelfrydol, ar yr amod bod y llofnodion angenrheidiol wedi eu cynnwys.
5. Alla i gael rhagor o wybodaeth am hyn? Pennod 10 1. Sut dylwn i anfon gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau? Gallwch chi gyflwyno dogfennau i’r Cofrestyrdd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos, i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin. Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX). Os anfonwch chi ddogfennau, byddwch cystal â’u cyfeirio i:
Os ydych yn anfon dogfennau drwy'r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) a'ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch chi gopi o'ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu'r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch. Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i'w chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs. 2. Ble galla i gael ffurflenni a chanllawiau? Mae hwn yn un o gyfres o ganllawiau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi arweiniad syml i’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig. Mae ffurflenni statudol a chanllawiau ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’n gwefan www.companieshouse.gov.uk neu drwy ffonio 0303 123 4500. Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|