Aelodau Annibynnol o’r Bwrdd Llywio
Andrew Summers CMG – Cadeirydd Bwrdd Llywio Tŷ’r Cwmnïau
|
 |
Cafodd Andrew ei benodi’n Gadeirydd Annibynnol yn Ionawr 2007.
Mae’n gweithio mewn nifer o rolau anweithredol sy’n cynnwys Cyfarwyddwr Whitbybird, ymgynghoriaeth beirianneg o fri, Cadeirydd Design Partners, y corff diwydiant/llywodraeth sy’n cefnogi cwmnïau dylunio’n rhyngwladol, a Dirprwy Lywydd y Gymdeithas Gelf Frenhinol.
Bu’n Brif Weithredydd gyda’r Cyngor Dylunio tan 2003 a chyn hynny bu’n dal llawer o safleoedd uchel mewn amrywiol gwmnïau, gan gynnwys Rheolwr-Gyfarwyddwr gyda Sharwoods ac RHM Foods a Phrif Weithredydd cyntaf y Fenter Siarter Reoli. Mae ei rolau llywodraeth wedi cynnwys aelodaeth o fwrdd y Gwasanaeth Busnesau Bach a Masnach Prydain Rhyngwladol a chadeirydd Pwyllgor Masnach Ewropeaidd y DTI.
Yn 2001 dyfarnwyd CMG i Andrew am ei waith yn hybu dylunwaith y DU yn rhyngwladol. |
Yn ôl i'r brig
|
Rodger Hughes
|
 |
Cafodd Rodger ei benodi i’r Bwrdd Llywio ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio o Ionawr 2008. Ac yntau’n Gyfrifydd Siartredig, bu’n bartner yn PricewaterhouseCoopers am 25 mlynedd, yn cynnwys 4 blynedd fel Partner Rheoli a 7 mlynedd fel Pennaeth y practis Aswiriant. Cafodd brofiad helaeth yn cynghori amrywiaeth eang o gyrff ar faterion busnes.
Mae’n Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol yn Chime Communications plc ac yn aelod o Dîm Arweiniad Addysg Busnes yn y Gymuned. |
Yn ôl i'r brig
|
John Alty
|
 |
Er mis Medi 2005 bu John yn gyfrifol, fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Marchnadoedd Teg, am ddiddordeb y BERR mewn amrediad eang o feysydd polisi a rheoleiddio sy’n gosod y fframwaith ar gyfer busnes, gweithwyr a defnyddwyr, yn y DU yn ogystal ag o fewn yr UE ac yn rhyngwladol. John hefyd yw’r Aelod Bwrdd cefnogol ar gyfer y Gwasanaeth Ansolfedd (INSS) a Th’r Cwmnïau.
Ymunodd John â’r DTI yn 1978. Bu’n gweithio i’r DTI gydol ei yrfa, ac eithrio secondiad dwy flynedd at Ysgrifenyddiaeth Ewropeaidd Swyddfa’r Cabinet ganol y 1980au. Bu swyddi blaenorol yn cynnwys cyfnodau yn ymdrin â’r rhyngweithio rhwng y DTI a sectorau busnes, cyfrifoldeb pennaf am bolisi Ewropeaidd y DTI, ac am bolisi cystadlu, rheoleiddio yswiriant, a gweithredu fel ysgrifennydd preifat i nifer o Weinidogion. |
Yn ôl i'r brig
|
Dan Bernard
|
 |
Cafodd Dan ei benodi i’r Bwrdd Llywio ym Mai 2004. Mae ganddo dros 13 blynedd o brofiad ar lefel Cyfarwyddwr Bwrdd gyda Kingfisher Plc a’i isgwmnïau B&Q Plc a Woolworths Plc, lle bu’n gyfrifol am systemau, logisteg a gweithrediadau busnes. Ac yntau’n uwch-weithredwr a gaiff ei ysgogi gan ganlyniadau, mae ganddo hefyd brofiad eang mewn busnesau cydwladol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Ei gryfderau yw strategaeth fusnes, arwain timau a datblygu pobl, a rheoli rhaglenni helaeth i ailsaernïo busnes. Mae’n gyfarwydd â gweithio yn niwylliannau busnes yr Unol Daleithiau ac Ewrop. |
Yn ôl i'r brig
|
Alex Jablonowski
|
 |
Penodwyd Alex i’r Bwrdd Llywio yn Ionawr 2004. Mae’n uwch-fanciwr rhyngwladol sydd wedi ennill amrediad eang o brofiad bancio yn y DU a gwledydd eraill, ac mae ganddo brofiad hefyd o sefydliadau ariannol, gwasanaethau gweithredol, TG a rheoli prosiectau. At hyn, mae gan Alex brofiad diwydiannol a masnachol helaeth ym maes bancio a benthyca corfforaethol.
Mae wedi gweithredu ar lefel Bwrdd gyda llawer o gwmnïau a banciau o fri, gan ddal safleoedd fel Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol i Grŵp Barclays, rheolwr-gyfarwyddwr adrannol i Barclays a Phrif Weithredwr i fanc masnachol a phreifat. Mae Alex ar hyn o bryd yn cyflawni amrywiol rolau ymgynghorol a safleoedd ym maes cyfalaf mentro, ynghyd â safleoedd eraill fel cyfarwyddwr anweithredol. |
Yn ôl i'r brig
|
Geoff Dart
|
 |
Mae Geoff Dart ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr yr Adran Cyfraith a Threfn Llywodraeth Gorfforaethol (CLG), lle mae’n gyfrifol am y gyfraith gwmnïau, gofynion a safonau cyfrifeg ac archwilio ariannol, a Gwell Rheoleiddio. Gyrfa gwas sifil a ddilynir ganddo erioed ac mae wedi dal nifer o swyddi uchel yn y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys Prif Ysgrifennydd Preifat i ddau weinidog cabinet. Cyn ymuno â CLG, roedd yn Gyfarwyddwr Cyfarwyddiaeth Strategaeth a Chysylltiadau’r DTI. |
Yn ôl i'r brig
|