Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Gwybodaeth a chanllawiau



PEIDIWCH Â GADAEL I LADRON DDWYN EICH SEDDI YN YSTAFELL Y BWRDD!

Mae rhwng 50 - 100 o achosion o Dwyll Hunaniaeth Gorfforaethol yn digwydd bob mis.

Dyma rai o’r mesurau rhagofalon y dylech eu cymryd i fynd i’r afael â Thwyll Hunaniaeth Gorfforaethol, a dyma ein Cynllun 3 Pwynt ni i’ch helpu chi:

1. Monitor

Mae’r gwasanaeth Monitor yn eich galluogi i gadw golwg ar eich cystadleuwyr, eich cydweithwyr busnes a’ch cwmni eich hun, a ‘monitro’ pa ddogfenni sydd wedi’u ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. Fe wyddoch bod rhywfaint o wybodaeth am eich cwmni yn wybodaeth gyhoeddus, felly beth allai fod yn fwy effeithlon na bod gwybodaeth a allai helpu neu ddiogelu eich busnes ar gael i chi o’r eiliad y caiff ei ffeilio?

Am wybodaeth bellach ynghylch Monitor, cliciwch yma (Saesneg yn unig)

2. Gwasanaeth WebFiling

Mae defnyddio’n gwasanaeth WebFiling, sef ein gwasanaeth ffeilio ar-lein, yn ffordd llawer mwy diogel o anfon gwybodaeth statudol atom na defnyddio ffurflenni papur a anfonir drwy’r post. Mae angen i chi gofrestru ar gyfer cael cod diogelwch (a anfonir drwy’r e-bost) a chod dilysu (a anfonir drwy’r post i’ch swyddfa gofrestredig) ac yna gellwch anfon llawer o’r wybodaeth am eich cwmni atom yn electronaidd. Hefyd mae’n 50% yn rhatach i ffeilio’ch ffurflen blynyddol ar-lein.

Am wybodaeth bellach ynghylch WebFiling, cliciwch yma

3. System PROOF

Protected Online FilingUnwaith y byddwch wedi derbyn eich cod dilysu i ffeilio ar-lein, gellwch gofrestru ar system PROOF, ein gwasanaeth newydd o Ffeilio Ar-lein wedi’i Ddiogelu (PROtected Online Filing), a ddyluniwyd i gael gwared ar mwy fyth o dwyll hunaniaeth. Wedi hynny byddwn ond yn derbyn ffurflenni sy’n ymwneud â newid cyfeiriad a manylion am gyfarwyddwyr oddi wrthych yn electronaidd. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw un o’r rhain oddi wrthych ar bapur oni bai eich bod chi’n awdurdodi hynny.

Am wybodaeth bellach ynghylch PROOF, cliciwch yma

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies