Cwestiynau Mynych |
||||
| Penderfyniad I Newid Enw Cwmni Am wybodaeth lawn, gweler ein llyfryn canllaw GBF2 – Enwau Cwmni - Cliciwch yma i weld GBF2 Sut ydw i’n newid enw fy nghwmni?
Cliciwch yma i wirio argaeledd yr enw cwmni newydd drwy WebCHeck. (Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o ddydd Llun i ddydd Sul 7.00am i 12 canol nos, amser y DU)) Oes yna ffurflen neu ddiwyg penodol ar gyfer penderfyniad arbennig neu ysgrifenedig? Er nad oes ffurflen na diwyg penodol, rydym wedi awgrymu patrymau ar gyfer pob math o benderfyniad, sydd ar gael i’w llenwi ar-lein. Cliciwch yma ar gyfer ffurflen penderfyniad arbennig NC19 Cliciwch yma ar gyfer ffurflen penderfyniad ysgrifenedig NC20 Beth yw penderfyniad arbennig? Mae penderfyniad arbennig yn benderfyniad a gaiff ei fabwysiadu mewn cyfarfod cyffredinol o’r cwmni gan 75% o’r aelodau hynny sydd â hawl i bleidleisio. (Byddai penderfyniad arferol yn llwyddo gyda 51% o’r rhai sydd â hawl bleidleisio yn pleidleisio drosto.) Beth yw penderfyniad ysgrifenedig? Mae penderfyniad ysgrifenedig yn benderfyniad a gaiff ei fabwysiadu’n unfrydol gan aelodau’r cwmni. Dylai pob aelod lofnodi a dyddio’r dogfennau. Pa mor hir mae hyn yn cymryd? Os yw’r holl ddogfennau’n gywir, caiff enw’r cwmni ei brosesu fel arfer o fewn pum diwrnod gwaith i’w dderbyn yn Nhŷ’r Cwmnïau. A gaiff cwmni a ddiddymwyd newid ei enw? Caiff, ond mae’n rhaid cyflwyno llythyr oddi wrth y diddymydd gyda’r penderfyniad. |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|