Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio |
||||
|
Gwasanaeth PROtected Online Filing (PROOF) Ers peth amser, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi bod yn ymwybodol o’r difrod y gall herwgipwyr ei achosi i gwmnïau a chyflenwyr nwyddau a gwasanaethau. Fel arfer, mae’r gweithgarwch hwn yn ymwneud â thwyllwyr yn newid manylion ynghylch cyfarwyddwyr a swyddfa gofrestredig y cwmni. I helpu i fynd i’r afael â thwyll cwmni, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cyflwyno cynllun 3 phwynt yn rhoi gwybodaeth bellach amdano isod. Ni allwn atal cipio. Nid oes gennym grym i ymchwilio i gynnwys a chywirdeb ffurflenni a anfonir atom er mwyn eu ffeilio. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn ystyried yn ofalus a oes modd i systemau Ffeilio Electronig wella diogelwch cwmnïau. Mae’n gwasanaethau ‘WebFiling’ a ‘Software Filing’ yn cynnwys mesurau diogelwch megis defnyddio cyfrineiriau, codau dilysu cyfrinachol a chyfeiriadau e-bost cydnabyddedig. Ers peth amser, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi bod yn ymwybodol o’r difrod y gall herwgipwyr ei achosi i gwmnïau a chyflenwyr nwyddau a gwasanaethau. Fel arfer, mae’r gweithgarwch hwn yn ymwneud â thwyllwyr yn newid manylion ynghylch cyfarwyddwyr a swyddfa gofrestredig y cwmni. I helpu i fynd i’r afael â thwyll cwmni, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cyflwyno cynllun 3 phwynt yn rhoi gwybodaeth bellach amdano isod. Ni allwn atal cipio. Nid oes gennym grym i ymchwilio i gynnwys a chywirdeb ffurflenni a anfonir atom er mwyn eu ffeilio. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn ystyried yn ofalus a oes modd i systemau Ffeilio Electronig wella diogelwch cwmnïau. Mae’n gwasanaethau ‘WebFiling’ a ‘Software Filing’ yn cynnwys mesurau diogelwch megis defnyddio cyfrineiriau, codau dilysu cyfrinachol a chyfeiriadau e-bost cydnabyddedig. I sicrhau diogeledd pellach, sylwer, os yw’ch cwmni yn destun anghydfod mewnol parhaus, ni fyddwch yn gallu ymuno â chynllun PROOF. Ni all Tŷ’r Cwmnïau ymyrryd mewn anghydfodau mewnol cwmni ac mae’n rhaid i’r partïon dan sylw geisio cyngor cyfreithiol proffesiynol annibynnol. Pan fydd y Cofrestrydd yn hollol fodlon bod yr anghydfod mewnol wedi cael ei ddatrys, bydd y cwmni yn gallu ymuno â’r cynllun. Ddydd Sul 21 Mehefin 2009 bydd Tŷ’r Cwmnïau’n cyflwyno ffordd electronig newydd i gwmnïau ymuno â PROOF drwy’r gwasanaeth WebFiling. Mae’r cynllun PROOF (PROtected Online Filing) yn helpu cwmnïau i’w hamddiffyn eu hunain rhag cael eu herwgipio gan ei fod yn atal unigolion rhag ffeilio ffurflenni papur penodol. Mae’r rhain yn cynnwys dogfennau i benodi/diswyddo/newid manylion swyddogion cwmni a newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig (sef ffurflenni 287, 288 a’r Ffurflen Flynyddol ar hyn o bryd). Ar ôl i gwmni ymuno â’r cynllun PROOF, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw fersiynau papur o’r ffurflenni hyn gan eu hanfon yn ôl i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir yn cael eu cofrestru gydag awdurdod y cwmni. I ymuno â’r cynllun PROOF, mae angen yn gyntaf ichi gofrestru ar gyfer gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau. Ar ôl ichi gofrestru ar gyfer gwasanaeth WebFiling a chwblhau’r broses mewngofnodi, ticiwch y blwch i gadarnhau eich bod wedi darllen y telerau a’r amodau ac wedi cytuno â nhw a dewiswch ‘ymuno â PROOF’. Gwasanaeth Web Filing Software Filing I sicrhau diogeledd pellach, sylwer, os yw’ch cwmni yn destun anghydfod mewnol parhaus, ni fyddwch yn gallu ymuno â chynllun PROOF. Ni all Tŷ’r Cwmnïau ymyrryd mewn anghydfodau mewnol cwmni ac mae’n rhaid i’r partïon dan sylw geisio cyngor cyfreithiol proffesiynol annibynnol. Pan fydd y Cofrestrydd yn hollol fodlon bod yr anghydfod mewnol wedi cael ei ddatrys, bydd y cwmni yn gallu ymuno â’r cynllun. Darllenwch fwy am Gynllun PROOF Tŷ’r Cwmnïau (ar gael un saesneg yn unig) Am fanylion pellach, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt, 0303 1234 500, neu’r rhif Minicom - 029 20381245 – ar gael o 08:30 tan 18:00 (amser y DU) |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|