Desg y Wasg |
||||
|
Croeso i Ddesg y Wasg yn Nhŷ’r Cwmnïau Sut gallwn ni helpu? Mae gan Dŷ’r Cwmnïau wasanaeth gwasg bach er budd y cyfryngau newyddion, gwasg y fasnach a’r diwydiant adloniant. Oherwydd hyn, er ein bod yn croesawu diddordeb proffesiynol yn Nhŷ’r Cwmnïau, allwn ni ddim ymdrin fel rhan o’r drefn â chwiliadau am wybodaeth ar y gofrestr cwmnïau. Yn ffodus, dyma rywbeth y caiff unrhyw ymwelydd o’r cyfryngau ei wneud drosto’i hun, a hynny drwy gyrchu’n gwasanaethau ar-lein ardderchog. Mae’r gwasanaethau sylfaenol ar gael yn rhad ac am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys: Llyfrynnau Canllaw Ein Gwasanaethau Byddwch cystal â defnyddio’r gwasanaethau hyn cyn ichi gysylltu’n unionyrchol â ni, gan fod modd derbyn bod yr e-gofnod cyhoeddus yn awdurdodol i’r graddau y mae cwmnïau wedi dweud wrthon ni am eu statws. Yr unig wybodaeth y gallwn ni ei chyrchu yw’r un wybodaeth ag sydd ar gael i chithau, felly fydd yna fawr ddim byd y gallwn ninnau ei ychwanegu fel Desg y Wasg at yr hyn y gallwch chithau ei weld eisoes o ran yr wybodaeth sy’n cael ei dangos naill ai ar y gofrestr neu yn ein llyfrynnau canllaw.
Os oes gennych faterion eraill sydd heb eu crybwyll uchod, fe fyddem yn fodlon eu trafod, a’u datrys lle bo modd neu eich anfon yn y cyfeiriad cywir. Cewch gysylltu â Desg y Wasg i ddechrau drwy’n Canolfan Gysylltu a fydd yn gofyn am eich manylion a natur sylfaenol eich galwad. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu helpu heb fod angen eich cyfeirio at Ddeg y Wasg. Ffôn: +44 (0)303 1234 500, Minicom 029 20381245. Er hynny, yn gyffredinol rydyn ni’n gallu bod yn fwy effeithiol wrth ateb eich ymholiadau dros yr e-bost ac rydym yn eich gwahodd i gysylltu â ni drwy press@companieshouse.gov.uk Os anfonwch chi y tu allan i oriau, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ymateb cyn gynted â phosibl wedyn. |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|